Telerau
Nid yw’r blaendal yn ad-daladwy.
Amser cyrraedd: wedi 3:00pm
Amser gadael: erbyn 11:00am
Rhaid i westeion dalu’n llawn os yw’r trefniant yn cael ei ddileu o fewn 7 diwrnod i ddyddiad eu harhosiad, neu os nad ydy’r gwestai’n cyrraedd i ddefnyddio’r ystafell a neilltuwyd ar ei gyfer.
Amser brecwast:
Dydd Llun tan ddydd Sadwrn: 7:30 - 9:00am
Dydd Sul: 8:00 - 9:30am
Gallwn baratoi brecwast cynharach am gost o £20 ychwanegol (tuag at gyflogi staff).
Bydd y Bar a’r Gwesty’n cau am hanner nos i Westeion, a byddem yn ddiolchgar petaech dan do erbyn hynny. Os hoffech gael diod ar ôl hanner nos, mae pob croeso ichi fynd â diodydd i’ch ystafell.
Ymddiheurwn nad oes lifft yn y gwesty.
Ni chaniateir i anifeiliaid anwes aros yma.