Dywed: Gillian o Stoke-on-Trent, Y Deyrnas Gyfunol; (Pâr canol oed) Ar: 25/05/2006
Y CWBL FEDRA’I DDWEUD YDY Y BYDDAI’N DDA GEN I PETAWN I’N GWYBOD AM Y LLE YMA O’R BLAEN, ACHOS GALLWN FOD WEDI BOD ACW LAWER O WEITHIAU ERBYN HYN
Dywed:James o Sandhurst, Y Deyrnas Gyfunol (Grŵp o gydweithwyr) Ar: 24/05/2006
Llety da mewn gwesty wedi’i foderneiddio; safle gwych yn Harlech. Bwyd rhagorol yn y Bwyty – gellid ei argymell i unrhyw un. Mae Harlech yn ganolfan dda ar gyfer ymweld ag Eryri; rhaid cael cerbyd.
Dywed:Cheryl o Wawaka, yr Unol Daleithiau (Pâr canol oed) Ar: 09/05/2006
Roedd y gwesty yma yn bendant yn un o ryfeddodau’n trip! Mae Branwen yn westy bach, deniadol gyda bwyd gwych mewn pentref bach. Llety rhagorol am bris rhesymol, staff cynnes a chyfeillgar, bwyd campus, bar da, a digon o sylw wedi’i roi i gyfforddusrwydd a theimlad esthetig y rhannau cyhoeddus a’r ystafelloedd gwely. Da iawn! Llongyfarchiadau ar ailwampio chwaethus. Rydyn ni’n argymell eich gwesty heb unrhyw amheuaeth, a byddwn yn ymweld â chi eto os byddwn yn yr ardal!