Chwedl Branwen

Priododd Matholwch, Brenin Iwerddon, â Branwen, chwaer y brenin Brân. Aeth pethau’n iawn ar y dechrau, a ganwyd mab iddynt. Fodd bynnag, yn ystod yr ail flwyddyn, dechreuodd ei gŵr ei cham-drin.
Yn y dirgel, magodd Branwen ddrudwy gan ei ddysgu i adnabod ei brawd. Ysgrifennodd lythyr a’i glymu dan adain yr aderyn cyn ei anfon i chwilio am y brenin Brân. Gwylltiodd Brân a chasglu byddin fawr a fflyd o longau cyn hwylio am Iwerddon. Bu brwydr waedlyd, ac anafwyd Brân yn ddrwg. Cyn marw, dywedodd “Torrwch fy mhen a’i gladdu ar fryncyn gwyn yn Llundain, yn wynebu tua Ffrainc. Tra bydd yno, ni ddaw dim drwg i Ynys y Cedyrn ar draws y môr.”
A dyna pam fod adar yn cael eu cadw hyd heddiw yn Nhŵr Llundain, i gydweddu â phroffwydoliaeth y Brenin Brân – oherwydd hebddynt, bydd y Tŵr Gwyn a’r frenhiniaeth Brydeinig yn chwalu.
Dim ond Branwen a saith o ddynion a ddychwelodd i Gymru o Iwerddon, a phan fu farw Branwen, cafodd ei chladdu mewn bedd petryal ar Ynys Môn. |