Change language to English Newidiwch iaith i Gymraeg
Contact the us on Tel: 01766 780 477

Cyfarwyddiadau

Dewch o hyd i Westy’r Branwen yn nhref Harlech ar arfordir gorllewinol Cymru, 8 milltir i’r de o Borthmadog.  Mae’r gwesty gerllaw priffordd yr A462 sy’n rhedeg drwy Harlech, gyferbyn â’r Clwb Golff, a’r ochr isaf i’r Castell.

Click here for print version (PDF)

O ogledd Lloegr:
Teithiwch ar hyd yr M56 nes gwelwch arwyddion am yr M53; dilynwch yr M53 nes y gwelwch arwyddion am Wrecsam, Corwen a’r Bala.  Wedi cyrraedd Y Bala, trowch i’r dde ar yr A4212 a’i dilyn tan groesffordd yr A470. Trowch i’r dde i gyfeiriad Porthmadog, gan wylio am arwyddion Harlech ym Maentwrog.

O dde Lloegr:
Dilynwch yr M1 neu’r M40 i’r gogledd i ymuno â’r M6. Ymunwch â’r M54 sy’n pasio heibio Telford.  Bydd y ffordd hon yn newid yn A5. Teithiwch heibio Amwythig ac yna troi i gyfeiriad y gorllewin ar yr A458.  Dilynwch yr arwyddion am Ddolgellau, gan ymuno â’r A470 cyn cyrraedd Dolgellau.  Wrth adael tref Dolgellau, dilynwch yr arwyddion am Abermaw, ac yna Harlech ar yr A496.


Mae gorsaf drên Harlech tua chanllath o’r Gwesty.  Gellir teithio yma ar drên o Birmingham, ac yno o orsaf Euston yn Llundain.  Ffoniwch 08457 484950 am fwy o fanylion.

O gyfeiriad y gogledd, Blaenau Ffestiniog yw’r orsaf agosaf, a gellir ei chyrraedd o gyfeiriad Cyffordd Llandudno, a Manceinion.

Y meysydd awyr rhyngwladol agosaf yw maes awyr John Lennon yn Lerpwl, a maes awyr rhyngwladol Manceinion, ac mae’r ddau oddeutu 2 awr o Harlech.  Nid oes cludiant cyhoeddus ar gael i’r gorllewin oddi yno, a’r dewis gorau fyddai rhentu car.

Os hoffech weld map manwl o Harlech a’r cylch, gellwch glicio yma i gysylltu â dolen multimap.