Change language to English Newidiwch iaith i Gymraeg
Contact the us on Tel: 01766 780 477

Ein gwinoedd

Gwinoedd o’r hen fyd neu o’r byd newydd?  Mae’r cyfan yn cael eu cwmpasu gan restr winoedd Y Branwen, sy’n cynnwys gwinoedd amlwg a rhai mwy distadl o bob cornel o’r byd.  Ymdrechwn i gynnig dewis o winoedd fydd yn apelio at bawb, i’w yfed gyda bwyd neu hebddo wrth gymdeithasu gyda ffrindiau.  Wrth ddethol ein gwinoedd, rydyn ni wedi rhoi pwys ar gyfuno safon a gwerth am arian.  Gan fod cynifer o fathau gwahanol o rawnwin i ddewis ohonynt, mae gennym bellach enghreifftiau blasus o winoedd llonydd a phefriog, a dewis bychan o winoedd pwdin melys a phort rhagorol.