Change language to English Newidiwch iaith i Gymraeg
Contact the us on Tel: 01766 780 477

Llofftydd

Mae yma wyth o lofftydd gwahanol wedi’u cynllunio a’u haddurno’n hardd, gyda golygfa ysblennydd o gwrs golff byd-enwog St David’s o rai ohonynt.  Cafodd pob llofft ei hailwampio’n ddiweddar mewn dull traddodiadol, sy’n cynnwys dodrefn pren mahogani wedi’u llunio’n bwrpasol, a charpedi a llenni moethus.  Gellir cael gwelyau dwbl neu welyau gefaill ymhob ystafell, gyda chwiltiau o blu gŵydd a dillad gwely o gotwm Eifftaidd, ystafell ymolchi breifat, teledu LCD, sychwr gwallt, ac offer gwneud te a choffi.