Change language to English Newidiwch iaith i Gymraeg
Contact the us on Tel: 01766 780 477
Great Castles
Golf Courses
Portmeirion
The Ffestiniog Railway
Blaenau Ffestiniog

Portmeirion

PortmeirionPrynodd Clough Williams-Ellis safle Portmeirion yn 1925 am lai na £5,000, gan fod y lleoliad ar y pryd, yn ei eiriau ei hun, yn “anialwch diffaith oedd wedi’i esgeuluso ers tro gan y rhamantwyr hynny oedd wedi sylweddoli apêl unigryw a phosibiliadau’r penrhyn gwych, ond gafodd eu gwneud yn fethdalwyr gan eu cynlluniau mawreddog i ail-lunio’r dirwedd.”  Yn rhifyn 6 Ionawr, 1926 y cylchgrawn ‘The Architect’s Journal”, tynnwyd sylw at y pryniant hwn gan Clough Williams-Ellis: “Ar arfordir Gogledd Cymru, heb fod ymhell o’i hen gartref, Plas Brondanw, prynodd safle delfrydol yn ei farn ei hun, ac mae wrthi’n cynllunio ac yn gosod patrwm ar gyfer treflan gyfan.  Bydd canlyniadau’r cynllun yma yn arwyddocaol, a dylai hyn roi ysgytwad i’r Portmeirionsyniad ei bod yn iawn i drefi dyfu rywsut-rywsut, er bod tai yn gorfod cydymffurfio o ran cynllun.”

Mae Portmeirion yn croesawu ymwelwyr dydd, a hefyd ymwelwyr sy'n aros dros nos, un ai yng Ngwesty Portmeirion ar lan y môr, yn y bythynnod sy'n rhan o'r pentref, neu yng Nghastell Deudraeth sy'n wynebu'r aber. Ceir manylion am hanes y pentref, ac am yr adnoddau sydd yno, yn yr adran hon.

Portmeirion welcomes visitors both for the day and to stay the night, either in the Hotel Portmeirion on the shore, in the cottages that make up the village, or in Castell Deudraeth overlooking the estuary. All details of the village's history and facilities can be found in this section.
http://www.portmeirion-village.com/