Change language to English Newidiwch iaith i Gymraeg
Contact the us on Tel: 01766 780 477
Great Castles
Golf Courses
Portmeirion
The Ffestiniog Railway
Blaenau Ffestiniog

Castell Caernarfon

Saif Castell Caernarfon ar yr arfordir gogleddol yn ganolbwynt i gylch haearnaidd cestyll Edward I, ar lan ddeheuol y Fenai rhwng Gogledd Cymru ag Ynys Môn. Fe’i gosodwyd mewn man strategol gyferbyn a Môn gan fod yno dir ffermio cyfoethog, ac roedd y Fenai yn cynnig dull cyflym o gyrraedd y cestyll eraill er mwyn eu cyflenwi.

Llwyddodd y Brenin Edward I i sicrhau bod ei fab, tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn cael ei eni yno yn 1284. Ers hynny, daeth y castell yn enwog ar draws y byd pan fu’n lleoliad i arwisgiad y Tywysog Siarl yn Dywysog Cymru.

Cydnabuwyd ei bwysigrwydd pan gafodd ei wneud yn Safle Treftadaeth y Byd.

  • Castell Harlech
  • Castell Caernarfon
  • Castell Conwy
  • Castell Biwmares
  • Castell Dinbych
  • Castell Cricieth

    Cestyll eraill
    Ceir llawer o gestyll enwog eraill yng Nghymru, a gellir cael gwybodaeth amdanynt ar www.castlewales.com.