Change language to English Newidiwch iaith i Gymraeg
Contact the us on Tel: 01766 780 477
Great Castles
Golf Courses
Portmeirion
The Ffestiniog Railway
Blaenau Ffestiniog

Blaenau Ffestiniog

Mae’r dref wedi’i lleoli ym mynyddoedd Eryri, a bu unwaith yn ganolfan i chwareli’r diwydiant llechi. Edwinodd y diwydiant hwn yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Bellach, mae economi’r dref a’r ardal yn bennaf ddibynnol ar y diwydiant ymwelwyr.

Mae gan Blaenau Ffestiniog nifer o atyniadau ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys Rheilffordd Ffestiniog, a hefyd Chwarel Llechwedd, sef chwarel lechi o’r gorffennol sy’n agored i dwristiaid.

Yn Llechwedd, bydd ymwelwyr yn mynd ar drên o un rhan o’r felin hollti llechi o gyfnod 1852, ac yna’n cael eu cludo drwy dwnnel a luniwyd yn 1846 mewn cerbyd sy’n cael ei dynnu gan injan fatri a thrydan.  Bydd y trên yn teithio ar siwrnai wastad drwy ochr y mynydd, ac ar draws ceudyllau trawiadol, yn ôl i’r gorffennol Fictorianaidd.

www.festrail.co.uk/
www.llechwedd-slate-caverns.co.uk/deepmine.html