

Estynnir croeso cynnes ichi i’r Branwen gan y teulu sy’n rhedeg y gwesty, y brasserie a’r bar yn y safle hyfryd yma wrth droed Castell Harlech, sy’n borth i Barc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r gwesty Cymreig hwn yn y wlad yn cynnig awyrgylch gynnes a chyfforddus ac mae wedi’i oleuo a’i addurno’n gelfydd a chyfoes. Mae pob un o’r saith llofft hardd wedi’u cynllunio’n ddeniadol a llawn cymeriad, gydag ystafell molchi breifat.
Yn y bwyty moethus ceir bwyd amheuthun, ac mae cynnwys y fwydlen amrywiol a dyfeisgar wedi’i baratoi’n bwrpasol gan ddefnyddio cynnyrch o’r safon uchaf posib.
Gadewch i’n staff brwdfrydig a chydwybodol, dan reolaeth Tyra Wood, ofalu amdanoch wrth ichi fwynhau’r adnoddau rhagorol sydd gan y gwesty i’w gynnig. Ymlaciwch ym mar y lolfa neu’r bar bach, neu cymrwch de pnawn ar y patio wrth benderfynu pa rai o atyniadau’r ardal i’w harchwilio gyntaf. Maldodwch dipyn arnoch eich hunan drwy gymryd pryd yn y Bwyty, a chaniatáu i’n cogydd profiadol eich rhyfeddu gan y dewis gwych o fwydlen y dydd.
Mae Gwesty Branwen yn ddigon hawdd ei gyrraedd ar y trên neu mewn car o rannau eraill o Gymru, Canolbarth Lloegr neu Ogledd Lloegr.
Mae Gwesty Branwen wedi'i henwi i goffáu tywysoges y ceir ei hanes mewn casgliad o chwedlau Cymraeg, sef y Mabinogi.